
Galluoedd plismona arbenigol yn mynd i’r afael â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol ledled de Cymru
Oes angen i chi roi gwybod am drosedd? Dewiswch eich heddlu lleol i ddechrau.

Heddlu Dyfed-Powys

Heddlu Gwent

Heddlu De Cymru
Pwy yw Tarian?
Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) de Cymru yw Tarian. Ceir naw uned ledled Cymru a Lloegr, ac mae pob un wedi cael ei chreu i reoli bygythiad trawsffiniol Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, lle roedd troseddwyr a oedd yn croesi ffiniau tiriogaethol yn effeithio ar heddluoedd yn draddodiadol.
Mae pob ROCU yn cynnwys swyddogion heddlu a staff yr heddlu ymroddedig sy’n gweithio mewn sawl rhan o feysydd plismona arbenigol sy’n adlewyrchu prif fygythiadau’r rhanbarth unigol.
Sefydlwyd Tarian yn 2003, ac mae wedi tyfu’n sylweddol o ran maint a galluedd ers hynny. Fodd bynnag, ei chenhadaeth wreiddiol yw blaenoriaeth yr uned o hyd: adnabod a tharfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol, a’u dymchwel, er mwyn eu rhwystro rhag achosi’r niwed gwaethaf i ranbarth De Cymru.

Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol
Mae Llywodraeth y DU yn diffinio Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol fel unigolion sy’n cynllunio, yn cydlynu ac yn cyflawni troseddau difrifol, ar eu pen eu hunain, mewn grwpiau, a/neu fel rhan o rwydweithiau trawsgenedlaethol. Mae Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn fygythiad mawr i ddiogelwch gwladol a ffyniant y Deyrnas Unedig. Maent yn cymryd bywydau, yn amharu ar gymunedau, yn effeithio ar dwf economaidd, yn arwain at golledion ariannol, ac yn erydu enw da y DU a’i sefydliadau yn rhyngwladol. Caiff y rhan fwyaf o Droseddau Difrifol a Chyfundrefnol eu llywio gan awydd cyson unigolion i gael arian, gyda Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol yn ceisio cael cymaint o elw â phosibl heb lawer o risg. Caiff rhai o’r prif fathau o Droseddau Difrifol a Chyfundrefnol eu hamlinellu isod.
Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu

Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu yw’r math mwyaf cyffredin o drosedd yn y DU ac mae 40% o’r holl droseddau bellach yn rhan o’r math hwn. Mae Troseddau Economaidd yn cyfeirio at gategori eang o weithgarwch yn ymwneud ag arian, cyllid neu asedau. Ei bwrpas yw sicrhau bod y troseddwr yn gwneud elw neu’n elwa’n anghyfreithlon o’r gweithgarwch, neu achosi i eraill golli arian. Gweithgarwch troseddol yw Seiberdroseddu sydd naill ai’n targedu neu’n defnyddio cyfrifiadur, rhwydwaith cyfrifiadurol, neu ddyfais rwydweithiol.
Darllenwch fwyMasnachu mewn Cyffuriau

Ceir tri dosbarth o gyffuriau a reolir yn y DU: Dosbarth A, Dosbarth B a Dosbarth C. Mae masnachu mewn cyffuriau yn ffynhonnell gyllid fawr i Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol. Bydd OCGs yn symud cyffuriau anghyfreithlon o un ardal i’r llall, gan ddefnyddio plant neu bobl agored i niwed fel arfer, trwy broses a elwir yn Llinellau Sirol. Mae pedair prif drosedd sy’n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon: meddu ar gyffuriau, eu cyflenwi, eu cynhyrchu a’u mewnforio. Mae masnachu mewn cyffuriau bron bob amser yn sail i weithgareddau eraill grwpiau troseddau cyfundrefnol.
Darllenwch fwyTroseddau Mewnfudo Cyfundrefnol

Mae Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol yn ymwneud â symud unigolyn o un wlad i’r llall heb ganiatâd cyfreithiol neu ddogfennaeth gyda chymorth Grŵp Troseddau Cyfundrefnol. Mae Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo yn camfanteisio’n fawr ar oedolion a phlant agored i niwed ac yn gofyn am symiau mawr o arian am eu gwasanaethau anghyfreithlon. Gall y rhai hynny na allant dalu gael eu gorfodi i ymgymryd â chaethwasiaeth fodern a gweithio i dalu eu ‘dyledion’.
Darllenwch fwyCaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Mae Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn bodoli mewn nifer o ffurfiau ledled y wlad a gallant effeithio ar nifer o bobl wahanol ni waeth beth yw eu cefndir, rhywedd, oed nac ethnigrwydd. Mae’r mathau o gaethwasiaeth yn cynnwys masnachu plant, llafur dan orfod, caethiwed oherwydd dyled, camfanteisio’n rhywiol, camfanteisio troseddol a chaethwasiaeth domestig. Caiff nifer o ddioddefwyr eu masnachu o dramor ac mae’r troseddwyr yn dechrau camfanteisio arnynt yn ystod y daith. Deir o hyd iddynt yn aml yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, y diwydiant amaeth, y diwydiant rhyw, ac mewn mannau fel siopau ewinedd, lleoliadau golchi ceir a ffermydd canabis.
Darllenwch fwyCam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Child Sexual Abuse (CSA) involves forcing or persuading a child or young person under the age of 18 to take part in sexual activities, whether or not the child is aware of what is happening. Child Sexual Exploitation (CSE) is a form of CSA. It is a term used to describe where an individual or group takes advantage of an imbalance of power to coerce, manipulate or deceive a child under the age of 18 into sexual activity. CSE does not always involve physical contact; it can also occur through the use of technology. Children who are coerced into working for Organised Crime Groups (OCGs) may also be groomed and sexually exploited.
Darllenwch fwyTroseddau Meddiangar Cyfundrefnol

Mae Troseddau Meddiangar Cyfundrefnol yn ymwneud â throseddau lle y mae’r troseddwr neu’r troseddwyr yn elwa mewn modd materol o ganlyniad i’r drosedd. Mae enghreifftiau yn cynnwys dwyn o siopau, bwrgleriaeth a lladrata. Caiff troseddau meddiangar cyfundrefnol yn aml eu cyflawni gan grwpiau Troseddau Cyfundrefnol ar raddfa fawr, wedi’i chynllunio.
Darllenwch fwyEin Galluoedd
Mae gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian dros 20 o alluoedd plismona arbenigol. Caiff rhai galluoedd eu rhannu â’n chwaer Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, y mae rhai ohonynt yn benodol i Tarian, ac mae rhai yn rhan o raglenni plismona’r rhwydwaith cyfan. Mae ein galluoedd yn parhau i ddatblygu er mwyn ymateb i’r bygythiad sy’n newid yn barhaus rydym yn ei wynebu yn sgil Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol. Gallwch ddysgu mwy am ein galluoedd isod.












