
Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian
Beth yw Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol?
Mae Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, neu ROCUs, yn ffurfio rhan hollbwysig o’r rhwydwaith plismona cenedlaethol. Mae ROCUs yn ymchwilio i Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol ac yn amharu ar eu gweithredoedd ledled ffiniau’r heddlu, yn ogystal â helpu i ymchwilio i feysydd troseddau arbenigol, fel seiberdroseddu a throseddau economaidd. Mae ROCUs hefyd yn gweithredu fel pwynt cyswllt pwysig rhwng heddluoedd a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Ni chaiff nifer o weithgareddau’r ROCU eu cynnal yn llygad y cyhoedd; mae’n cynnal gweithrediadau sensitif a chudd o bryd i’w gilydd. Ond eto, mae gwaith yr unedau yn chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu’r cyhoedd gan wynebu Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol.


Ni yw Tarian
Tarian yw Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol de Cymru. Rydym yn uned gydweithredol sy’n cynnwys staff yr heddlu a swyddogion heddlu o’n heddluoedd cyfansoddol: Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys. Mae gan Tarian dros 20 o alluoedd plismona arbenigol sy’n ein galluogi i gynnal ein hymchwiliadau ein hunain, gan helpu’r heddluoedd, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, cyrff llywodraethol a phartneriaid y diwydiant hefyd. Mae casglu a llunio cudd-wybodaeth, datblygu achosion, amharu ar droseddwyr, diogelu unigolion, ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd, a sicrhau euogfarnau i’r troseddwyr mwyaf peryglus yn rhan o’n dull holistaidd o fynd i’r afael â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol.
Lleoliadau rydym yn eu gwasanaethu

Heddlu Dyfed-Powys
Mae Heddlu Dyfed-Powys, a sefydlwyd yn 1968, yn gwasanaethu ardal o 3,360 milltir sgwâr, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent, a sefydlwyd yn 1967, yn gwasanaethu Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru, a sefydlwyd yn 1969, yn gwasanaethu ardal o 803 milltir sgwâr, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
Rhai o’n partneriaid



















