Ein Galluoedd Plismona Arbenigol

Ein Galluoedd

Sefydlwyd Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn 2003 gyda dim ond dau allu penodol, ein Huned Troseddau Economaidd Ranbarthol a’r Tasglu Rhanbarthol. Ers hynny, rydym wedi tyfu i fwy na 20 o alluoedd plismona arbenigol. Caiff rhai galluoedd eu rhannu â’n chwaer Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, y mae rhai ohonynt yn benodol i Tarian, ac mae rhai yn rhan o raglenni plismona’r rhwydwaith cyfan. Mae ein galluoedd yn parhau i ddatblygu er mwyn ymateb i’r bygythiad sy’n newid yn barhaus rydym yn ei wynebu yn sgil Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol. Gallwch ddysgu mwy am ein galluoedd isod.

Swyddogaethau Cymorth Busnes

Mae ein swyddogaethau cymorth busnes yn galluogi Tarian i weithredu’n effeithlon. O’r adran Gweinyddu a Chyfathrebiadau, Adnoddau Dynol ac Ystadau, i’r adran Busnes a Pherfformiad, mae pawb yn cydweithio i ddatblygu ac arloesi ein Huned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol yn barhaus.

Swyddogion a Phartneriaid Sefydledig

Mae Tarian yn cynnwys swyddogion a staff o asiantaethau partner er mwyn hwyluso’r broses o rannu cudd-wybodaeth yn gyflymach a hyrwyddo’r defnydd o dactegau amrywiol wrth fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol.

Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Asiantaeth y Llywodraeth (GAIN)

Partneriaid gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau’r llywodraeth yw Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Asiantaeth y Llywodraeth sy’n gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r rhwydwaith yn rhannu cudd-wybodaeth ac yn cwblhau gwaith ar y cyd mewn dull system gyfan unigol. Mae gan Tarian gydgysylltydd GAIN sy’n gweithio’n agos gyda’n heddluoedd lleol a’n partneriaid i nodi a chydgysylltu cyfleoedd ar gyfer gwaith amlasiantaethol a gweithgarwch tarfu.

Rhaglen Mynd i’r Afael â Chamfanteisio Cyfundrefnol (TOEX)

Galluedd cudd-wybodaeth yw’r Rhaglen TOEX sy’n darparu cudd-wybodaeth ddynodedig ac arbenigedd dadansoddol i gefnogi heddluoedd i gynnal ymchwiliadau i achosion o gamfanteisio cyfundrefnol cymhleth, fel caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, troseddau mewnfudo cyfundrefnol, llinellau cyffuriau, cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar oedolion a phlant. Mae gan Tarian dîm TOEX dynodedig sy’n gweithio i sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu diogelu, yr amherir ar y rhai sy’n ceisio elwa ar gamfanteisio ar unigolion a’u bod yn cael eu dwyn i gyfrif.

Rheoli Troseddwyr

Mae ein timau rheoli troseddwyr yn monitro gweithgarwch troseddwyr cyfundrefnol sydd eisoes yn cyflawni dedfryd o garchar er mwyn sicrhau nad ydynt yn parhau i weithredu yn y carchar. Maent yn cydlynu’r broses o gasglu cudd-wybodaeth mewn carchardai ac yn cydgysylltu â charchardai rhanbarthol a phartneriaid eraill.

Datblygu Cudd-wybodaeth

Mae ein timau cudd-wybodaeth yn datblygu darlun o dirwedd troseddau, allan yn y gymuned, mewn carchardai neu ar-lein. Mae hyn yn cynnwys mapio grwpiau troseddu cyfundrefnol, deall yr amrywiaeth eang o droseddau cydgysylltiedig, a datblygu gwybodaeth am y ffordd y mae rhwydweithiau troseddol yn gweithredu ledled y wlad. Mae ein timau yn gweithio’n agos gyda swyddogion yn ystod gweithrediadau yn ymwneud â throseddau difrifol a chyfundrefnol byw i ymchwilio iddynt ac i ddarparu cymorth dadansoddol yn ogystal â helpu i ddatblygu a llunio pecynnau ar gyfer y llys. Mae’r rhai hynny sy’n gweithio ym maes swyddogaethau cudd-wybodaeth hefyd yn gweithredu o fewn amgylcheddau ‘diogel’, sy’n golygu y gallant weithio gyda gwybodaeth a data y gallant fod wedi’u casglu’n gyfrinachol yn ddiogel.

Timau Ymchwilio Rhanbarthol

Mae ein timau ymchwilio yn canolbwyntio ar y broses o amharu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol a’u dymchwel . Gallant ddefnyddio dulliau nad ydynt ar gael i’r heddluoedd ac mae ganddynt aelodau o staff arbenigol sydd wedi cael hyfforddiant ar dactegau a sgiliau arbenigol. Mae ein timau yn gweithio’n agos gydag adrannau troseddau difrifol a chyfundrefnol cenedlaethol a phartneriaid eraill i dargedu troseddwyr risg uchel.

Cydgysylltwyr ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed

Mae ein cydgysylltwyr ar gyfer pobl sy’n agored i niwed wedi’u cynnwys yn Tarian, ond yn rhan o raglenni rhanbarthol. Mae gennym gydgysylltydd o raglen Droseddau Caethwasiaeth Fodern a Mewnfudo Cyfundrefnol, cydgysylltydd o’r Ganolfan Cydgysylltu Llinellau Cyffuriau Genedlaethol, a chydgysylltydd sy’n gyfrifol am arwain yr ymateb rhanbarthol i raglen Cam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.

Uned Troseddau Economaidd Ranbarthol

Mae ein huned troseddau economaidd ymroddedig yn cynnwys ymchwilwyr a dadansoddwyr ariannol arbenigol sy’n mynd i’r afael â throseddwyr sy’n ymwneud â thwyll a gwyngalchu arian. Gall ein timau hefyd sicrhau nad yw troseddwyr yn cael unrhyw enillion anghyfreithlon, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’n bosibl ennill arian wrth gyflawni troseddau. Mae ein tîm ymgysylltu yn gweithio gyda busnesau, elusennau, cyrff addysgol, ac aelodau o’r cyhoedd i’w helpu i ddeall sgamiau cyffredin a’r ffordd y gallant amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas orau.

Uned Seiberdroseddu Ranbarthol

Mae ein huned seiberdroseddu yn gweithio ar ymchwiliadau seiber lefel uchel i droseddolrwydd sy’n bygwth ein seilwaith rhanbarthol. Gall ein timau arbenigol fynd i’r afael â throseddwyr sy’n gweithredu ar y we dywyll, olrhain troseddwyr sy’n gweithredu’n rhyngwladol, a dadansoddi dyfeisiau digidol er mwyn casglu tystiolaeth o droseddau cyfundrefnol. Mae ein tîm ymgysylltu yn gweithio gyda busnesau, elusennau, ac aelodau o’r cyhoedd i’w helpu i amddiffyn eu hunain yn well rhag bygythiadau seiber cyffredin. Mae hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc medrus sy’n wynebu risg o groesi’r llinell i seiberdroseddu.