Carcharu dau ddyn o Gaerdydd am droseddau cyffuriau

Cafodd Ahmed Al-Farraji, 25 oed o Adamstown, Caerdydd a Jamal Malik, 24 oed o Butetown, Caerdydd, eu dedfrydu heddiw yn Llys y Goron Abertawe am ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn rhyngwladol.

Mae’r dedfrydau yn dilyn ymchwiliad mawr gan yr heddlu i achosion o fewnforio symiau cyfanwerthol o ganabis o’r Unol Daleithiau i’r Deyrnas Unedig.

Canfu Ymgyrch Starburst, dan arweiniad swyddogion o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian, fod parseli a oedd yn cynnwys cyffuriau yn cael eu hanfon at nifer o gyfeiriadau yn ardal Caerdydd. Roedd y parseli wedi’u labelu ag enwau ffug a disgrifiadau camarweiniol o’u cynnwys i osgoi cael eu canfod.

Gweithiodd Tarian gyda swyddogion Heddlu’r Ffiniau i ryng-gipio rhai parseli mewn hybiau dosbarthu rhyngwladol.

Canfu Ymgyrch Starburst fod Al-Farraji, a oedd yn gweithredu o dan yr enw ‘Josh’, yn rheoli llinell cyflenwi cyffuriau hirsefydledig. Roedd y llinell hon yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A, gan gynnwys cocên, a chyffuriau Dosbarth B, gan gynnwys canabis, ledled Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos.

Mae Ahmed Al-Farraji wedi cael dedfryd o dair blynedd a phedwar mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cocên, a bydd yn bwrw dedfryd naw mis sy’n cydredeg am gynllwynio i gyflenwi canabis.

Canfuwyd bod Malik yn chwarae rôl allweddol yn logisteg y llinell. Dangoswyd ei fod yn trefnu mewnforion, yn trefnu cyfeiriadau dosbarthu, ac yn cynorthwyo â dosbarthu’r cyflenwad i gwsmeriaid.

Mae Jamal Malik wedi cael dedfryd o dair blynedd yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cocên, a bydd yn bwrw dedfryd naw mis sy’n cydredeg am gynllwynio i fewnforio a chyflenwi canabis.

Roedd trydydd dyn, sef Abdu Huriara Husain, 29 oed o Lecwydd, Caerdydd, yn gyfrifol am drefnu’r llwythi rhyngwladol o’r Unol Daleithiau. Cafodd Husain ddedfryd o chwe blynedd yn y carchar fel rhan o broses ddedfrydu grŵp troseddau cyfundrefnol ehangach ym mis Medi 2025.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rhys Richards o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Daeth yr ymchwiliad hwn o hyd i ymgyrch hynod gyfundrefnol a oedd yn mewnforio cyffuriau i’r DU ac yn cyflenwi sylweddau Dosbarth B a Dosbarth A ar strydoedd De Cymru.

“Mae troseddau o’r fath wedi’u hysgogi gan elw ac maent yn achosi niwed gwirioneddol i’n cymunedau. Drwy weithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Heddlu’r Ffiniau, gwnaethom lwyddo i nodi’r rhai a oedd yn gyfrifol, tarfu ar gadwyn cyflenwi sylweddol, a dwyn y troseddwyr gerbron y llysoedd.”