Carcharu dyn o Gaerdydd am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth B

Mae dyn o Cathays, Caerdydd, wedi cael ei garcharu ar ôl pledio’n euog i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.

Gwnaeth swyddogion yr heddlu stopio car oedd yn cael ei yrru gan Nayef Manzi, 31 oed, ger Cyffordd 30 yr M4 ar 10 Rhagfyr 2024.

Atafaelwyd dau ffôn symudol o’r cerbyd. Yn dilyn gwaith gan swyddogion o’r Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, sef Tarian, lwyddwyd i gysylltu un o’r ffonau â Manzi.

Wrth archwilio’r ddyfais ymhellach, daethpwyd o hyd i nifer mawr o sgyrsiau ar sawl ap cyfryngau cymdeithasol a oedd yn dangos ei fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau rheoledig, yn enwedig canabis Dosbarth B ac amffetaminau.

Cyn i swyddogion gael cyfle i gyfweld â Manzi mewn cysylltiad â’i ran yn cyflenwi cyffuriau, fe ddihangodd o fangre gymeradwy yn Llundain, lle’r oedd yn byw ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar am yrru tra roedd wedi’i wahardd. Ar 4 Rhagfyr 2025, cafodd Manzi ei stopio gan swyddogion o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wrth yrru McLaren 540C ar yr M4 tua’r gorllewin a chanfuwyd unwaith eto ei fod yn gyrru tra roedd wedi’i wahardd.

Ar 4 Rhagfyr 2025, cafodd Manzi ei gyhuddo o’r troseddau canlynol:

  • Ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig o Ddosbarth B – canabis
  • Ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig o Ddosbarth B – amffetaminau
  • Dau gyhuddiad o yrru tra roedd wedi’i wahardd

Er iddo bledio’n ddieuog i’r troseddau cyffuriau i ddechrau, newidiodd Manzi ei bledion o ddieuog i euog ar 1 Mehefin 2026 yn ystod yr achos llys.

Cafodd Manzi ei ddedfrydu i flwyddyn a deg mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Matt Jacob, o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Bydd Tarian yn parhau i ganfod yr unigolion sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, tarfu arnynt a’u dwyn i gyfrif. Rydym yn gweld yn uniongyrchol y niwed mae’r fasnach gyffuriau anghyfreithlon yn ei achosi, ac rydym wedi ymrwymo i’n cenhadaeth o amddiffyn cymunedau de Cymru rhag effeithiau’r gweithgarwch hwn.”

Nayef Manzi