
Carcharwyd dwy fenyw ac un dyn am geisio cuddio tarddiad arian yr oedd dan amheuaeth o ddeillio o ddelio cyffuriau yn y carchar.
Nododd ymchwiliad dan arweiniad yr Uned Cudd-wybodaeth Carchardai sy’n rhan o Tarian, sef yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, fod carcharor yng ngharchar y Parc wedi recriwtio cyn-swyddog carchar i wyngalchu arian a oedd dan amheuaeth o ddeillio o gyflenwi cyffuriau rheoledig.
Dangoswyd bod David James Braddon, 38 oed, wedi cysylltu â Claire Ann Jones, 39 oed, ar sawl achlysur gan ddefnyddio ffôn symudol anawdurdodedig yn ei gell. Roedd Jones yn gyn-swyddog carchar yng ngharchar y Parc.
Agorodd Jones gyfrif banc yn ei henw a ddefnyddiwyd wedi hynny i wneud taliadau i gyfrifon ac oddi wrth gyfrifon a oedd yn gysylltiedig â charcharorion eraill. Cafodd Jones ei diswyddo o’r Parc ym mis Gorffennaf 2023 am fethu ei chyfnod prawf.
Rhwng 9 Medi 2023 a 28 Mawrth 2024, sef y dyddiadau roedd y cyfrif banc ar agor, talwyd £21,045 i’r cyfrif.
Hefyd, defnyddiwyd cyfrifon banc mam Braddon, sef Karen Elizabeth Graham, 57 oed, a phartner Braddon, sef Gemma Louise Phillips, 41 oed, i brosesu a symud arian a gafwyd o droseddu.
O ganlyniad i gadernid y dystiolaeth, gwnaeth y pedwar diffynnydd bledio’n euog yn lle wynebu achos llys.
Cynhaliwyd y dedfrydu ddydd Gwener 31 Gorffennaf yn Llys y Goron Caerdydd.
Dedfrydwyd David James Braddon, sydd yng ngharchar Caerdydd ar hyn o bryd, i 3 blynedd a 7 mis yn y carchar am ymwneud â chaffael, cadw, defnyddio neu feddu ar eiddo troseddol, a 9 mis am feddu ar ffôn symudol yn y carchar, y ddwy ddedfryd i’w threulio’n gydamserol.
Dedfrydwyd Claire Ann Jones, o Donypandy, Rhondda Cynon Taf, i 2 flynedd a 9 mis yn y carchar am feddu ar eiddo troseddol.
Dedfrydwyd Karen Elizabeth Graham, o Gaerffili i 1 flwyddyn a 6 mis yn y carchar am feddu ar eiddo troseddol, a ohiriwyd am 2 flynedd.
Dedfrydwyd Gemma Louise Phillips, o Lanbradach, Caerffili i 1 flwyddyn a 10 mis yn y carchar am feddu ar eiddo troseddol.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Matthew Pearce, o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Bydd Tarian yn parhau i weithio gyda’r gwasanaeth carchardai i fynd ati i ddarganfod ac ymchwilio i garcharorion sy’n parhau i droseddu, yn ogystal ag unigolion sy’n ceisio eu helpu.
Dywedodd llefarydd ar ran CEF Y Parc: “Mae’r canlyniad heddiw yn dangos gallu’r ymgyrchoedd ar y cyd rhwng y carchar, HMPPS a’r heddlu yn ne Cymru i ddod â throseddwyr gerbron y llys.”



