


Mae dau ddyn wedi cael eu dedfrydu ar ôl i swyddogion o Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, eu gweld yn cymryd rhan mewn cyfnewid cyffuriau yn Abertawe.
Ar 9 Mehefin, 2024, gwelodd swyddogion Tarian Lee Ruggles, 50 oed, a Kian Piyadasa, 21 oed, wrth iddynt gyfnewid pecyn rhwng dau gerbyd.
Gwelwyd Ruggles yn dod allan o’i Ford Focus, yn cerdded at BMW, ac yn rhoi pecyn drwy’r ffenestr i Piyadasa. Yna dychwelodd Ruggles i’w gerbyd a chafodd ei atal gan swyddogion wrth iddo deithio tua’r dwyrain ar yr M4.
Cafodd Piyadasa ei atal gan swyddogion yn Abertawe. Daethpwyd o hyd i allwedd i gerbyd arall yn BMW Piyadasa. Cafwyd hyd i symiau sylweddol o gocên yn y Ford Focus a’r trydydd cerbyd, a chanfuwyd bod gan Piyadasa fag clo zip o gocên arno.
Dangosodd lawrlwythiadau ffonau symudol gyfathrebu rhwng Ruggles a Piyadasa a oedd yn gyson â chyflenwi cyffuriau.
Cafodd y ddau ddyn eu dedfrydu heddiw (8 Awst, 2025) yn Llys y Goron Abertawe yn dilyn pledion euog a gofnodwyd yn gynharach yn y flwyddyn.
Cafodd Lee Ruggles, o Barking, Barking a Dagenham, ei ddedfrydu i 9 mlynedd a 9 mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth A – cocên.
Cafodd Kian Piyadasa, o Birchgrove, Abertawe, ei ddedfrydu i 10 mlynedd ac 8 mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth A – cocên.
Dywedodd swyddog o Tarian ROCU:
“Dylai’r dedfrydau heddiw fod yn rhybudd i eraill sy’n ymwneud â throsedd tebyg. Cenhadaeth Tarian yw nodi, amharu a datgymalu grwpiau troseddau cyfundrefnol ac unigolion sy’n achosi’r niwed mwyaf i’n rhanbarth. Mae’r rhai sy’n cyflenwi cyffuriau yn gwneud elw sylweddol o ddioddefaint eraill a byddwn yn parhau i’w herlid.”

