Dedfryd o 20 mlynedd i ffoadur o Grŵp Troseddau Cyfundrefnol

Mae pennaeth Grŵp Troseddau Cyfundrefnol a oedd yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau ar raddfa fawr wedi cael ei ddwyn i gyfrif ar ôl cael ei estraddodi o Wlad Thai.

Cafodd Ritesh Patel, 43 oed o Cathays, Caerdydd ei ddedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ar 16 Mawrth 2026 am ei rôl mewn Grŵp Troseddau Cyfundrefnol, a oedd yn gyfrifol am gyflenwi cannoedd o gilogramau o gocên a heroin ledled y Deyrnas Unedig.

Datgelwyd y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol fel rhan o Ymgyrch Oberon, sef ymchwiliad rhagweithiol dan arweiniad swyddogion o Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru. Sefydlwyd Oberon mewn ymateb i ddata EncroChat a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fel rhan o Ymgyrch Venetic.

Dangosodd swyddogion Tarian fod Patel, rhwng 1 Chwefror 2020 a 28 Gorffennaf 2020, wedi arwain elfen De Cymru o’r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol o gyfeiriad yn Dubai. Roedd ganddo gymheiriaid yn Lerpwl, ac roedd dau unigolyn yn adrodd iddo yn uniongyrchol.

Defnyddiodd y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol rwydwaith o gludwyr troseddol i gludo symiau helaeth o gyffuriau anghyfreithlon ac arian parod ledled y DU. Roeddent yn soffistigedig yn eu hymdrechion i osgoi cael eu canfod gan swyddogion gorfodi’r gyfraith, gan ddefnyddio tacsis a cherbydau masnachol at ddibenion busnes cyfreithlon, yn ôl pob golwg, drwy gydol cyfyngiadau symud cyntaf Covid-19.

Roedd Patel yn hanfodol yn y broses o greu cwmni masnachol o dan yr enw ‘Mr Recovery’, a alluogodd y grŵp i brynu a gweithredu tryc adfer a cherbydau eraill â logos arnynt. Defnyddiwyd hefyd fws mini ag arwyddion y GIG ffug arno.

Defnyddiwyd nifer o dai diogel ledled De Cymru a Lerpwl gan y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol i guddio, cyfrif a phecynnu symiau mawr o arian parod.

Cafodd 14 aelod o’r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol eu dedfrydu i gyfanswm o 140 o flynyddoedd a naw mis yn y carchar ar 17 Hydref 2022. Roedd Patel y tu allan i awdurdodaeth y DU pan ddigwyddodd y troseddu, ond awdurdodwyd cyhuddiadau yn ei erbyn ar 2 Mehefin 2022. Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cafodd Patel ei arestio yng Ngwlad Thai am fod â phasbort ffug yn ei feddiant. Gwnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron gais iddo gael ei estraddodi i’r DU er mwyn wynebu cyfiawnder.

Gyda chymorth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Llysoedd Cyfiawnder Gwlad Thai, cafodd Patel ei estraddodi i’r DU ym mis Hydref 2025. Gwnaeth swyddogion o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian ac Uned Arfau Tanio ar y Cyd De Cymru gludo Patel drwy gonfoi i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd, lle y cafodd ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên a heroin.

Plediodd Patel yn euog i’r holl gyhuddiadau, gan gynnwys symud 102.5 o gilogramau o gyffuriau Dosbarth A, sef cocên a heroin, gyda gwerth stryd dros £3 miliwn.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lloyd Williams o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:

“Mae Ymgyrch Oberon wedi bod yn ymchwiliad cymhleth ac estynedig i Grŵp Troseddau Cyfundrefnol soffistigedig a oedd yn gweithredu ar raddfa ryngwladol.

“Rwy’n falch dros ben o glywed y ddedfryd a roddwyd i Patel. Dyma ganlyniad gwaith partneriaeth neilltuol rhwng Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Llysoedd Cyfiawnder Gwlad Thai. Mae’r ddedfryd hon yn adlewyrchu difrifoldeb troseddau Patel. Roedd yn gyfrifol am drefnu’r broses o ddosbarthu symiau aruthrol o gyffuriau Dosbarth A ledled cymunedau De Cymru. Roedd yn meddwl y gallai osgoi’r gyfraith drwy weithredu o wlad dramor, ond mae’r ddedfryd hon yn dangos y bydd Tarian yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pob troseddwr sy’n peri niwed i’n rhanbarth yn cael ei ddwyn i gyfrif.”

Dywedodd Caroline Hughes, Erlynydd Arbenigol yng Nghyfarwyddiaeth Materion Economaidd Difrifol a Threfnedig a Rhyngwladol Gwasanaeth Erlyn y Goron:

“Ritesh Patel is a career criminal who prior to this conviction had served a significant sentence for conspiracy to supply drugs. Having been released from that sentence, it didn’t take long for him to start offending again in exactly the same way.

“Mae Ritesh Patel yn droseddwr gyrfa a oedd, cyn y gollfarn hon, wedi treulio dedfryd sylweddol am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau. Ar ôl cael ei ryddhau o’r ddedfryd honno, ni chymerodd yn hir iddo ddechrau troseddu eto yn union yr un ffordd.

“Mae cyflenwi cyffuriau wedi’i ysgogi gan drachwant. Mae’n fusnes proffidiol i’r rhai sy’n gysylltiedig. Mae’r cyffuriau sy’n cael eu cyflenwi yn y pen draw i’r bobl sy’n eu defnyddio yn cael canlyniadau trychinebus iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd a’r gymuned; mae defnyddwyr y cyffuriau hyn yn cyflawni llawer iawn o droseddau i gael arian i’w prynu.”