Dedfrydu dau ddyn ar ôl gweithredu ffau gamblo heb drwydded yng Nghaerdydd

Mae dau ddyn wedi cael dedfrydau o garchar gohiriedig am feddu ar arian troseddol a’i drosglwyddo, a gafwyd drwy gynnal gemau pocer anghyfreithlon yng Nghaerdydd.

Mae dau ddyn a fu’n gweithredu ffau gamblo heb drwydded o uned ddiwydiannol yng Nghaerdydd wedi cael eu dedfrydu yn dilyn ymchwiliad gan Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru.

Rhwng Awst 2022 a Chwefror 2024, cynhaliodd Noor Rassam a Panayiotis Karayiannis gemau pocer anghyfreithlon o ystafell lan lofft mewn uned ar ystad ddiwydiannol yn y Sblot. Yn yr adeilad roedd chwe bwrdd pocer, olwyn wobrau, mannau eistedd, ac oergelloedd â diodydd a byrbrydau ynddynt.

Roedd mynediad i’r adeilad drwy allanfa dân, a fu’n cael ei monitro drwy gamerâu teledu cylch cyfyng dan reolaeth y pâr. Roedd swyddfa yn yr adeilad yn cynnwys deunyddiau gamblo, gan gynnwys darnau pocer, tocynnau a chofnodion yn manylu ar arian a dalwyd ac arian a oedd yn ddyledus. Roedd y swyddfa hefyd yn cynnwys ffenestr arian ag amddiffyniad Perspex a chanddi agoriad bach ar gyfer trafodion ariannol.

Daeth y gweithgarwch anghyfreithlon i’r amlwg ar ôl i’r Comisiwn Gamblo gael gwybodaeth a’i throsglwyddo wedyn i uned Tarian.

Ym mis Chwefror 2024, gwnaeth swyddogion o Tarian, yn gweithio ochr yn ochr â’r Comisiwn Gamblo, CThEF ac Adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd, weithredu gwarantau yn yr uned ddiwydiannol, yn ogystal ag adeiladau preswyl a busnes a oedd yn gysylltiedig â’r ddau ddyn.

Cafodd y ddau ddyn eu harestio a gwnaeth swyddogion atafaelu arian parod, dogfennaeth, dyfeisiau digidol ac eitemau gwerthfawr eraill.

Wedi dadansoddi’r deunydd, datgelwyd tystiolaeth helaeth o’r gweithrediad. Datgelodd archwiliadau o ffonau symudol negeseuon WhatsApp yn hyrwyddo gemau pocer wyneb yn wyneb ac ar-lein. Cynhaliwyd y gemau ar-lein drwy ap pocer y mae’n rhaid tanysgrifio iddo o dan yr enw cyfrif “Fish Tank Online”, tra bu’r digwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu hysbysebu yn y lle cyntaf fel “Ding Ding Poker” cyn cael eu hail-frandio yn ddiweddarach fel “Fish Tank Poker Cardiff”.

Yn sgîl ymholiadau ariannol, darganfuwyd bod y gweithrediad gamblo yn creu symiau sylweddol o arian. Canfu ymchwilwyr fod Rassam wedi cael tua £260,000 mewn taliadau trydydd parti tra bu’r safle ar waith, tra bod Karayiannis wedi cael tua £124,000. Dangosodd y ddau gyfrif nifer o drafodion a oedd yn nodi “pocer”.

Sefydlodd swyddogion hefyd fod y ddau yn elwa o’r gemau drwy gymryd comisiwn o bob llaw pocer, a elwir yn y diwydiant fel y “rake”, yn hytrach na thrwy betio uniongyrchol yn erbyn chwaraewyr.

Gwnaeth Rassam a Karayiannis newid eu ple i euog ar ddiwrnod cyntaf y treial am y troseddau canlynol:

  • Meddu ar eiddo troseddol, yn groes i Ddeddf Enillion Troseddu 2002
  • Trosglwyddo eiddo troseddol, yn groes i Ddeddf Enillion Troseddu 2002

Cawsant eu dedfrydu ar 2 Hydref 2026 yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd Noor Rassam, 29 oed, o Bentwyn, Caerdydd, ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar, a ohiriwyd am dair blynedd.

Cafodd Panayiotis Karayiannis, 30, o Bontprennau, Caerdydd, ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar, a ohiriwyd am dair blynedd.

Mae gwrandawiad Deddf Enillion Troseddau wedi’i drefnu ar gyfer 9 Ebrill 2027.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Charles Lan o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Roedd y ddau ddyn hyn yn gweithredu busnes gamblo anghyfreithlon er eu budd ariannol eu hunain, gan greu elw sylweddol nad oeddent erioed wedi’i ddatgan at ddibenion treth ac yn y pen draw daeth yr elw ar draul y cyhoedd ehangach.

“Yn sgîl eu menter droseddol fe gawsant fuddion personol sylweddol, gan ariannu ffordd o fyw foethus a oedd yn cynnwys gwyliau dramor a gwariant costus arall.

“Drwy gydol yr ymchwiliad, fe wnaethom ddarganfod tystiolaeth eu bod yn hyrwyddo eu gemau pocer i unigolion sy’n ymwneud â throseddu difrifol a hyd yn oed yn brolio am bresenoldeb delwyr cyffuriau ac aelodau grŵp troseddau cyfundrefnol yn eu digwyddiadau. Drwy ddarparu lleoliad i’r unigolion hyn ac elwa o’u cyfranogiad, roeddent yn helpu i hwyluso ac ariannu gweithgarwch troseddol pellach.

“Ni ddylid tanamcangyfrif y niwed a achosir gan y gweithrediad hwn. Collodd unigolion symiau sylweddol o arian drwy’r gemau hyn, a daeth rhai ohonynt yn ddyledus i’r trefnwyr. Yn wahanol i weithredwyr gamblo cyfreithlon, nid oedd unrhyw fesurau diogelu ar waith i adnabod neu gefnogi pobl agored i niwed, nac unrhyw fesurau i amddiffyn y rheini sy’n dod yn ddibynnol ar gamblo.

“Mae’r ddedfryd hon yn anfon neges glir nad yw gamblo heb drwydded yn drosedd heb ddioddefwyr. Os ydych chi ymysg y rheini sy’n ceisio elwa o gamblo anghyfreithlon wrth anwybyddu’r deddfau a’r amddiffyniadau sydd yno i gadw pobl yn ddiogel, gallwch ddisgwyl cael eich dwyn gerbron y llysoedd.

“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid, yn enwedig y Comisiwn Gamblo, y gwnaeth eu gwybodaeth ddod â’r gweithgarwch hwn i’n sylw yn y lle cyntaf. Roedd eu harbenigedd a’u cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad yn allweddol wrth ddod â’r achos hwn i ben yn llwyddiannus. Hoffwn hefyd ddiolch i CThEF ac Adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd am eu cymorth gwerthfawr.”

Dywedodd Sue Young, y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Weithrediadau i’r Comisiwn Gamblo: “Daeth yr achos hwn i’r amlwg ar ôl i ni gael gwybodaeth am ffau gamblo anghyfreithlon. Mae’r neges yn glir – os ydych chi’n cynnal casino anghyfreithlon, bydd rhywun yn ei riportio, byddwch chi’n cael eich dal, a bydd canlyniadau.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a chymryd camau yn erbyn y rheini sy’n cynnal gweithrediadau gamblo anghyfreithlon ym Mhrydain Fawr.”