
Mae Callum Dare, 26 oed, o Donysguboriau, wedi cael ei ddedfrydu am annog a chynorthwyo ‘swatting’, yn rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, a meddu ar feddalwedd we-rwydo soffistigedig. Mae hyn yn dilyn ymchwiliad helaeth gan Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, sy’n gweithio ochr yn ochr â Heddlu De Cymru a’r Biwro Ymchwilio Ffederal (FBI) yn yr Unol Daleithiau.

‘Swatting’ yw’r weithred o wneud adroddiad ffug i’r gwasanaethau brys er mwyn sbarduno ymateb gan swyddogion arfog i aelwyd y dioddefwr. Yn aml, bwriad yr adroddiadau maleisus hyn yw aflonyddu, dychryn neu achosi panig, a bydd ymateb yr heddlu sy’n deillio o hynny yn aml yn cael ei rannu ar-lein neu yn y cyfryngau.
Ym mis Mai 2019, rhoddwyd gwybod i Heddlu De Cymru a Tarian am ymchwiliad yr FBI yn ymwneud â Dare.
Roedd swyddogion o Swyddfa Faes yr FBI yn Nashville – Memphis Resident Agency, wedi nodi nifer o ddigwyddiadau o “swatting” ledled yr Unol Daleithiau, a oedd yn gysylltiedig â gwefan ar y we dywyll.
Gwnaeth ymchwilwyr olrhain nifer o’r digwyddiadau hyn i blatfform gwe dywyll o’r enw “Doxbin”, a oedd yn gysylltiedig â sianel sgwrsio ar-lein o’r enw “#deadnet”. Roedd defnyddwyr y sianel yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’i gilydd ac yn trafod ‘swatting’, docsio a mathau eraill o weithgarwch troseddol.
Docsio yw cyhoeddi gwybodaeth bersonol unigolyn, fel cyfeiriad neu fanylion cyswllt, heb ei gydsyniad. Mae’r wybodaeth hon yn aml yn cael ei defnyddio i hwyluso aflonyddu neu ymosodiadau ‘swatting’.
Wrth i ymholiadau fynd rhagddo, gwnaeth ymchwilwyr nodi bod Dare yn weinyddwr “Doxbin”. Dangosodd tystiolaeth ei fod yn gyfranogwr gweithredol yn y sianel sgwrsio gysylltiedig, lle roedd yn annog ac yn cynorthwyo eraill i dargedu unigolion a sefydliadau drwy ymosodiadau ‘swatting’.
Gwnaeth negeseuon a gafwyd o’r sianel ddangos Dare yn hawlio cyfrifoldeb am nifer o ddigwyddiadau ‘swatting’ yn yr Unol Daleithiau a Canada. Hefyd daeth ymchwilwyr o hyd i dystiolaeth ei fod wedi creu casgliadau fideo gan ddefnyddio ffilmiau o ffrydiau byw a ffynonellau ar-lein eraill yn dangos ymatebion brys i ymosodiadau ‘swatting’. Rhannwyd y fideos hyn yn y sianel mewn ymgais i annog eraill i gyflawni troseddau tebyg.
At hynny, gwnaeth yr ymchwiliad gysylltu Dare â digwyddiad ‘swatting’ cynharach yn ne Cymru. Ar 17 Rhagfyr 2018, riportiwyd bygythiad i newyddiadurwr a oedd yn gweithio i’r Western Mail (sef Wales Online bellach). Dros y ffôn, gwnaeth unigolyn honiad ffug ei fod wedi’i arfogi â bomiau hoelion ac yn dal gwystlon yng Ngwesty’r Sandringham yn Stryd y Santes Fair, Caerdydd.
Gwnaeth y newyddiadurwr rybuddio Heddlu De Cymru ac anfonwyd swyddogion arfog i’r fan a’r lle. O ganlyniad, cafodd Stryd y Santes Fair ei gwagio a’i chau, gan darfu’n sylweddol ar y cyhoedd ac achosi pryder yn eu plith yn ystod un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn.
Datgelodd archwiliad fforensig o ddyfeisiau electronig Dare ddelweddau ffrwd fyw, recordiadau teledu cylch cyfyng, ffeiliau sain, adroddiadau o’r newyddion a deunydd arall yn ymwneud â’r digwyddiad ffug. Canfu ymchwilwyr fod y deunyddiau hyn wedi’u golygu i lunio casgliad fideo a oedd yn cynnwys logo “Doxbin”.
Hefyd darganfu swyddogion ffeil gywasgedig â’r label “the man in the onion”, a oedd yn cynnwys cod cyfrifiadurol maleisus sy’n gallu hwyluso ymosodiadau gwe-rwydo.
Mae gwe-rwydo yn fath o dwyll ar-lein lle mae troseddwyr yn ceisio twyllo unigolion i ddatgelu gwybodaeth bersonol, ariannol neu fanylion cyfrif drwy wefannau ffug, negeseuon e-bost neu negeseuon sy’n ymddangos yn ddilys.
Canfu ymchwilwyr fod y cod “man in the onion” wedi’i lunio i ddynwared marchnadoedd y we dywyll a chasglu manylion mewngofnodi defnyddwyr. Yna gellir defnyddio’r tystysgrifau hynny i gael mynediad at waledi cryptoarian a chyfrifon ar-lein eraill.
Yn hytrach na wynebu achos llys, plediodd Dare yn euog i’r troseddau canlynol ar 15 Mehefin 2026:
- Annog/cynorthwyo wrth gyflawni troseddau neillffordd gan gredu y bydd un neu fwy ohonynt yn cael eu cyflawni.
- Meddu ar eitem / rheoli eitem i’w defnyddio wrth dwyllo
Mae’r troseddau yn groes i ddarpariaethau Deddf Troseddau Difrifol 2007 a Deddf Twyll 2006.
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, cafodd Dare ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis yn y carchar.
Dywedodd llefarydd ar ran Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Gall canlyniadau ‘swatting’ fod yn hynod ddifrifol. Mae adroddiadau ffug yn peryglu aelodau diniwed o’r cyhoedd, yn tarfu’n sylweddol ar gymunedau ac yn dargyfeirio’r gwasanaethau brys o ddigwyddiadau dilys.
“Mae’r achos hwn yn dangos effeithiolrwydd partneriaethau gorfodi’r gyfraith rhyngwladol wrth adnabod ac erlyn y rheini sy’n ceisio cynnal gweithgarwch troseddol ar-lein wrth gredu y gallant aros yn ddienw.”
Dywedodd yr Asiant Arbennig â Chyfrifoldeb, Terence G. Reilly o Swyddfa Faes yr FBI yn Nashville: “Nid pranc heb ddioddefwyr yw ‘swatting’ – mae’n drosedd ddifrifol a pheryglus a all gael canlyniadau marwol. Mae’r ymchwiliad hwn yn enghraifft o ymroddiad neilltuol yr FBI a’n partneriaid rhyngwladol ym maes gorfodi’r gyfraith i fynd ar drywydd a dwyn i gyfrif y rheini sy’n cyflawni’r drosedd beryglus hon – ni waeth lle yn y byd maen nhw’n byw.”
Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Gwnaeth Callum Dare roi pobl mewn perygl drwy annog sbarduno ymatebion arfog gan yr heddlu, er ei ias ei hun.
“Pan fydd galwadau ffug fel hyn, yn aml iawn bydd sawl gwasanaeth brys yn rhan o’r ymateb, gan eu tynnu i ffwrdd o bobl sydd eu hangen go iawn.
“O ganlyniad i gydweithredu rhyngwladol rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac erlynwyr mewn gwahanol awdurdodaethau, roedd modd i Wasanaeth Erlyn y Goron adeiladu achos cryf yn erbyn Dare, gan ddangos pa mor bellgyrhaeddol oedd ei droseddu; yna nid oedd dewis arall iddo ond pledio’n euog.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn atal eraill rhag cyflawni’r gweithredoedd troseddol hyn.”
