

Cafodd Peter Ian Yandell, 37 oed, o Fargoed, ei arestio yn ei safle busnes ar 11 Mehefin.
Gweithredwyd y warant gan swyddogion o Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ardal de Cymru, yng ngweithdy cerbydau Yandell yn Nhredegar. Roedd Yandell wedi bod yn defnyddio’r busnes i ddosbarthu cyffuriau a reolir ar raddfa enfawr.
Canfu chwiliad o weithdy Yandell symiau sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B, cyfarpar arbenigol ar gyfer cynhyrchu nwyddau anghyfreithlon, ac arf tanio ffug.
Atafaelodd swyddogion ffôn Yandell a daethant o hyd yn ddiweddarach i dystiolaeth helaeth a oedd yn ei gysylltu â chyflenwi cyffuriau ar raddfa fawr ledled rhanbarth de Cymru.
Plediodd Yandell yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, ymwneud â chyflenwi canabis, a bod ag arf tanio ffug yn ei feddiant. Cafodd ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Caerdydd i naw mlynedd a deg mis yn y carchar am y troseddau hyn. Cafodd ei ddedfrydu i ddeufis ychwanegol am dorri dedfryd ohiriedig.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rhys Richards o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Chwalodd yr ymgyrch hon drefniant cynhyrchu cyffuriau soffistigedig a oedd yn gyfrifol am gyflenwi sylweddau niweidiol i gymunedau ledled y rhanbarth.
Ceisiodd Yandell guddio ei fenter droseddol y tu ôl i fusnes cyfreithlon, ond dangosodd y dystiolaeth a atafaelwyd – yn enwedig y dystiolaeth o’i ffôn symudol – raddfa ei droseddu.
Mae’r ymchwiliad hwn yn dangos ymrwymiad parhaus Tarian i amlygu a chwalu troseddu cyfundrefnol. Byddwn yn gweithio’n ddiflino i amddiffyn y cyhoedd a sicrhau bod y rhai sy’n elwa ar gyflenwi nwyddau anghyfreithlon yn cael eu dwyn o flaen y llysoedd.


