
Cafodd Rodney Roberts, 40 oed o Trowbridge, Caerdydd, ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Casnewydd i bum mlynedd a mis yn y carchar am dwyll drwy ymhoniad anwir.
Canfu swyddogion o’r Tîm Troseddau Economaidd Rhagweithiol yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian a Heddlu De Cymru fod Roberts wedi twyllo tri dioddefwr allan o gyfanswm o £49,580 rhwng 2021 a 2024. Gwnaeth Roberts, drwy ddefnyddio’r enw ‘Paul Smith’, gyfarfod â’i ddioddefwyr drwy lwyfannau caru ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.

Cysylltodd Roberts â’i ddioddefwr cyntaf ym mis Chwefror 2021. Honnodd ei fod yn Americanwr o Califfornia, yn gweithio fel cyfreithiwr ac ariannwr yn y DU. Yn ddiweddarach, dywedodd Roberts wrth y dioddefwr fod hyn yn anwir, a’i fod mewn gwirionedd yn gweithio fel swyddog cuddwybodaeth. Honnodd nad oedd yn rheoli ei arian ei hun o ganlyniad i’r gwaith hwn, a gofynnodd i’r dioddefwr am fenthyciad ariannol.
Yn ystod y berthynas, gwnaeth Roberts annog y dioddefwr i fuddsoddi arian mewn cwmni buddsoddi ffug; helpodd y dioddefwr i werthu ei chartref er mwyn iddi fuddsoddi mwy o arian yn y cynllun; a gofynnodd i’r dioddefwr agor cyfrif banc iddo yn ei henw. Yn ddiarwybod iddi, agorodd Roberts hefyd gyfrif cryptoarian yn enw’r dioddefwr.
Cysylltodd Roberts â’i ail ddioddefwr ym mis Hydref 2022. Eto, gwnaeth ei hannog i fuddsoddi arian mewn cyfle buddsoddi, gan addo elw mawr. Byddai Roberts yn dangos sgrinluniau i’r dioddefwr o’r buddsoddiad yn tyfu. Ond, roedd y rhain yn ffug ac wedi’u creu ganddo. Drwy gydol y berthynas, byddai Roberts yn gwneud esgusodion i ddweud pam nad oedd yn gallu talu’r dioddefwr yn ôl.
Cysylltodd Roberts â’i drydydd dioddefwr ym mis Mawrth 2024. Honnodd ei fod yn gynhyrchydd teledu o America yn gweithio i’r BBC ar fisa dwy flynedd. Gofynnodd i’r dioddefwr am gymorth gydag arian, gan esbonio ei fod yn cael trafferth defnyddio ei gyfrifon banc Americanaidd a’i fod am dalu blaendal ar fflat. Eto, dangosodd Roberts sgrinluniau o’i gyfrif ffug i annog ei ddioddefwr. Roedd yn gwneud esgusodion eto i ddweud pam nad oedd yr arian y gwnaeth ei fenthyg fyth yn cael ei ddychwelyd.
Yn y pen draw, daeth y dioddefwr yn amheus a gwnaeth ymchwil ar-lein ei harwain at ddwy erthygl newyddion hanesyddol. Roedd yr erthyglau hyn yn nodi troseddau twyll blaenorol a gyflawnwyd gan Rodney Roberts gan ddefnyddio’r ffug enw Paul Smith. Yna, cysylltodd â Heddlu De Cymru fel dioddefwr twyll.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Amanda Davies o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Mae twyll rhamant yn fath o droseddu sy’n tyfu ac sy’n niweidiol iawn. Mae troseddwyr yn camfanteisio ar ymddiriedaeth a bregusrwydd yn fwriadol, a gall dioddefwyr nid yn unig wynebu colledion ariannol, ond trallod seicolegol ac embaras, sy’n aml yn eu hatal rhag rhoi gwybod am y drosedd.
“Rwy’n falch o’r ddedfryd a roddwyd heddiw. Gobeithio y bydd yn anfon neges at eraill a fyddai’n ymddwyn mewn ffordd ffiaidd fel hyn er mwyn elwa’n ariannol. Hoffwn gydnabod y dioddefwyr am eu dewrder wrth ein helpu i gael Roberts yn euog a’i ddwyn i gyfrif.
“Baswn yn annog unrhyw un sy’n dechrau perthynas ar-lein i fod yn ofalus. Mae arwyddion rhybudd cyffredin bod rhywun yn ymddwyn yn dwyllodrus yn cynnwys ceisiadau am arian, amharodrwydd i gwrdd yn bersonol neu drwy alwad fideo, a / neu bwysau i gadw perthynas yn gyfrinachol. Gall arwyddion rhybudd pellach gynnwys bomio â chariad, lle mae partner newydd neu ddarpar bartner yn eich llethu gyda sylw gormodol neu roddion mawr, fel arfer yn gynnar yn y perthynas.
“Mae twyllwyr, a thwyllwyr rhamant yn benodol, yn bencampwyr ar greu naratif a all swnio’n gredadwy i ddioddefwyr. Os ydych yn teimlo y gallai rhywbeth fod yn rhy dda i fod yn wir, baswn yn eich annog i ddilyn eich greddf. Cysylltwch â theulu neu ffrindiau. Os byddwch yn credu y gallech fod wedi dioddef twyll rhamant, rhowch wybod i Action Fraud: https://www.reportfraud.police.uk/
“Bydd ROCU Tarian yn parhau i fynd ar ôl twyllwyr a’u dwyn gerbron y llysoedd.”
