Naw aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol yn cael eu dedfrydu i gyfanswm o 43 mlynedd a 5 mis yn y carchar am droseddau cyffuriau

Mae naw aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol wedi cael eu dedfrydu yn dilyn ymchwiliad rhagweithiol dan arweiniad Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru.

Sefydlodd Tarian Ymgyrch Allegro, gan gydweithio â Heddlu Gwent a Chwnstabliaeth Swydd Gaerloyw, i darfu ar grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn gweithredu ledled de Cymru a de-orllewin Lloegr.

Roedd y grŵp, a oedd yn cael ei arwain gan Danny Tomlin yn Swydd Gaerloyw, yn gyfrifol am gyflenwi symiau cyfanwerthol o gyffuriau Dosbarth A, sef cocên, a chyffuriau Dosbarth B, sef canabis, i gwsmeriaid ar hyd a lled de Cymru. Yn rhan o’u gweithredoedd, roedd y grŵp yn rhedeg dwy ffatri ganabis soffistigedig mewn eiddo preswyl yn y Coed Duon a Threbanog.

Ar 29 a 30 Gorffennaf 2025, gweithredodd Tarian nifer o warantau er mwyn arestio’r sawl a oedd yn ymwneud â’r grŵp gyda chymorth Heddlu Gwent a Chwnstabliaeth Swydd Gaerloyw.

O ganlyniad i gryfder y dystiolaeth, plediodd saith o’r diffynwyr yn euog cyn neu yn ystod y treial.

Cafodd yr unigolion eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher 25 Mawrth 2026. Rhoddwyd y dedfrydau canlynol:

Plediodd Danny Tomlin, 40 oed o Wooton-Under-Edge, Swydd Gaerloyw, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên, cynllwynio i gyflenwi canabis, a thyfu canabis. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd a 10 mis yn y carchar.

Cafwyd Ryan Battersby, 36 oed o Gasnewydd, yn euog o gynllwynio i gyflenwi cocên a chynllwynio i gyflenwi canabis yn ystod yr achos llys. Mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar.

Plediodd Louis Maxwell, 39 oed o Gasnewydd, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chynllwynio i gyflenwi canabis. Mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar.

Cafwyd Ashley Coughlan, 42 oed o Gasnewydd, yn euog o gynllwynio i gyflenwi cocên. Mae wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis yn y carchar.

Plediodd David Gorman, 41 oed o Charfield, De Swydd Gaerloyw, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên. Mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis yn y carchar.

Plediodd Jack Griffin, 21 oed o Gasnewydd, yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis. Mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar ac mae eisoes wedi bwrw ei ddedfryd ar remand.

Ar 21 Ionawr 2026, tra oedd ar dreial am gynllwynio i gyflenwi canabis, newidiodd Kory Preece, 25 oed o Gil-y-coed yn Sir Fynwy, ei ble i euog. Mae wedi cael dedfryd o 15 mis yn y carchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd. Bydd rhaid iddo gyflawni 180 awr o waith di-dâl a chwblhau 10 diwrnod o weithgarwch adsefydlu.

Plediodd Christopher Preston, 68 oed o Nailsworth, Swydd Gaerloyw, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a chynllwynio i gyflenwi canabis. Mae wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.

Plediodd Bradley Williams, 38 oed o Abertawe, yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis, cynnig cyflenwi cocên, cynnig cyflenwi cetamin, a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant. Mae wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a naw mis yn y carchar.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Vinnie Easton o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:

“Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth ar raddfa fawr i grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn ceisio elwa o’r diflastod a’r niwed roeddent yn eu peri yn ein cymunedau.

“Gobeithio y bydd y dedfrydau hyn yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd yn ne Cymru fod Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau ledled ein rhanbarth, ac y byddwn yn dwyn y rhai sy’n ymwneud â’r gweithgareddau hyn i gyfrif.

“Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am y rhai sy’n ymwneud a chyflenwi cyffuriau i roi gwybod i ni drwy ffonio 101. Gallwch hefyd roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111 neu gwblhau ffurflen ar eu gwefan: https://crimestoppers-uk.org/”