
Mae pum aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol wedi cael eu dedfrydu yn dilyn ymchwiliad estynedig dan arweiniad Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru.
Sefydlodd Tarian Ymgyrch Rooster i darfu ar grŵp a oedd yn gweithredu ledled de Cymru a de-orllewin Lloegr. Roedd y grŵp yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau â gwerth stryd amcangyfrifedig o fwy na £3.5 miliwn, gan gynnwys cocên, crac cocên, MDMA, metamffetamin, a chetamin.
Cadarnhaodd swyddogion fod aelod allweddol o’r grŵp, sef Urszula Glowacka, a’i chyd-droseddwr Pawel Kobis, wedi derbyn cyfarwyddiadau gan unigolyn sy’n defnyddio sawl enw ffug, gan gynnwys ‘X’, ‘Extra’, ‘Ev’ ac ‘Everest’. Derbyniodd y ddau ohonynt gyfarwyddiadau i gasglu a dosbarthu symiau mawr o gyffuriau ledled y Deyrnas Unedig. Roedd Jamie Davies, ynghyd â’r brodyr Nazif ac Aleksander Lala, yn gweithio fel cludwyr ac yn cyflenwi cyffuriau i’r rhwydwaith sylweddol o gwsmeriaid oedd gan y grŵp.
Wrth arestio’r unigolion a chynnal chwiliadau, atafaelodd swyddogion ffonau symudol a swm sylweddol o gyffuriau rheoledig.
O ganlyniad i gryfder y dystiolaeth, plediodd pob un o’r diffynwyr yn euog cyn neu yn ystod y treial.
Ddydd Llun 18 Mai 2026, cawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd. Rhoddwyd y dedfrydau canlynol:
- Cafodd Urszula Glowacka, 42 oed o Abertyleri, Blaenau Gwent, ei dedfrydu i naw mlynedd a phedwar mis am gynllwynio i gyflenwi cocên, MDMA, metamffetamin a chetamin.
- Cafodd Aleksander Lala, 30 oed o Rydychen, ei ddedfrydu i naw mlynedd a phedwar mis am gynllwynio i gyflenwi cocên a chrac cocên.
- Cafodd Pawel Kobis, 46 oed o Abertyleri, Blaenau Gwent, ei ddedfrydu i wyth mlynedd ac wyth mis am gynllwynio i gyflenwi crac cocên.
- Cafodd Nazif Lala, 25 oed o Rydychen, ei ddedfrydu i wyth mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cocên a chrac cocên.
- Cafodd Jamie Davies, 29 oed o Begbroke, Swydd Rydychen, ei ddedfrydu i bum mlynedd ac wyth mis am gynllwynio i gyflenwi cocên, MDMA, metamffetamin a chetamin.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Amy Podmore o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth i grŵp troseddau cyfundrefnol oedd yn gweithredu ar draws ardal ddaearyddol fawr. Roedd yr unigolion hyn yn gweithredu o’u gwirfodd i gyflenwi symiau cyfanwerthol o gyffuriau dros bellteroedd sylweddol er budd ariannol, heb ystyried y niwed y byddai hynny’n achosi i’n cymunedau.
“Mae’r dedfrydau a roddwyd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau, a dylent fod yn rhybudd i bobl eraill.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i roi gwybod amdano drwy ffonio 101, neu 999 os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd bygythiad i fywyd. Gallwch riportio materion yn ddienw i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111, neu drwy lenwi’r ffurflen ddiogel ar eu gwefan: https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/give-information-anonymously





