Telerau ac Amodau

Hawlfraint

Mae’r holl ddeunydd ar y wefan hon yn ddarostyngedig i hawlfraint. Oni chaiff ei nodi’n benodol bod deunydd ar gael at ddefnydd cyffredinol, ni ddylid ei gopïo na’i ailddefnyddio heb ganiatâd penodol Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian neu ddeiliaid eraill yr hawlfraint lle y defnyddir deunydd o dan drwydded.

Yr unig eithriadau yw’r rhai a ganiateir o dan y gyfraith hawlfraint, lle y gellir defnyddio deunydd heb ganiatâd neu daliad at ddibenion:

  • ymchwil neu astudiaeth breifat
  • adolygiad neu feirniadaeth ddilys
  • addysg (ar yr amod nad yw’n cynnwys nifer o gopïau)
  • mewn achosion cyfreithiol

Mae hyn yn amodol ar atgynhyrchu’r deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Dylid cyfeirio at ffynhonnell y deunydd yn briodol.

Ymwadiad

Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, caiff ei darparu ar sail ‘fel y mae’, heb unrhyw fath o warantiad, ac ni roddir gwarantiad, yn benodol neu’n ymhlyg, ynglŷn â’i chywirdeb neu ei chyflawnrwydd.

Nid yw Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wallau na hepgoriadau. Ni fydd Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn atebol am unrhyw hawliadau trydydd parti na cholledion o unrhyw natur, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, golli elw, difrod uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy’n codi o ddefnydd trydydd parti o’r wefan hon neu anallu i wneud hynny.

Nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol na chyngor proffesiynol arall

Dolenni

Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen i unrhyw dudalen ar y wefan hon. Peidiwch ag agor ein tudalennau mewn fframset nac mewn unrhyw strwythur arall a allai beri i rywun ganfod bod cynnwys Tarian yn rhan o wefan arall.

Nid yw Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am cynnwys unrhyw wefan lle mae dolen hyperdestun o’r wefan hon yn bodoli. Darperir y dolenni ar sail ‘fel y mae’ heb warantiad, yn benodol neu’n ymhlyg, am y wybodaeth a ddarperir ynddynt.