
Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn rhanbarth de Cymru
Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol
Mae Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn fygythiad mawr i ddiogelwch a ffyniant ein rhanbarth. Darllenwch fwy am y mathau o droseddau difrifol a chyfundrefnol rydym yn ymchwilio iddynt isod.

Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu yw’r math mwyaf cyffredin o drosedd yn y DU ac mae 40% o’r holl droseddau bellach yn rhan o’r math hwn. Mae Troseddau Economaidd yn cyfeirio at gategori eang o weithgarwch yn ymwneud ag arian, cyllid neu asedau. Ei bwrpas yw sicrhau bod y troseddwr yn gwneud elw neu’n elwa’n anghyfreithlon o’r gweithgarwch, neu achosi i eraill golli arian. Gweithgarwch troseddol yw Seiberdroseddu sydd naill ai’n targedu neu’n defnyddio cyfrifiadur, rhwydwaith cyfrifiadurol, neu ddyfais rwydweithiol.

Ceir tri dosbarth o gyffuriau a reolir yn y DU: Dosbarth A, Dosbarth B a Dosbarth C. Mae masnachu mewn cyffuriau yn ffynhonnell gyllid fawr i Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol. Bydd OCGs yn symud cyffuriau anghyfreithlon o un ardal i’r llall, gan ddefnyddio plant neu bobl agored i niwed fel arfer, trwy broses a elwir yn Llinellau Sirol. Mae pedair prif drosedd sy’n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon: meddu ar gyffuriau, eu cyflenwi, eu cynhyrchu a’u mewnforio. Mae masnachu mewn cyffuriau bron bob amser yn sail i weithgareddau eraill grwpiau troseddau cyfundrefnol.

Mae Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol yn ymwneud â symud unigolyn o un wlad i’r llall heb ganiatâd cyfreithiol neu ddogfennaeth gyda chymorth Grŵp Troseddau Cyfundrefnol. Mae Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo yn camfanteisio’n fawr ar oedolion a phlant agored i niwed ac yn gofyn am symiau mawr o arian am eu gwasanaethau anghyfreithlon. Gall y rhai hynny na allant dalu gael eu gorfodi i ymgymryd â chaethwasiaeth fodern a gweithio i dalu eu ‘dyledion’.

Mae Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn bodoli mewn nifer o ffurfiau ledled y wlad a gallant effeithio ar nifer o bobl wahanol ni waeth beth yw eu cefndir, rhywedd, oed nac ethnigrwydd. Mae’r mathau o gaethwasiaeth yn cynnwys masnachu plant, llafur dan orfod, caethiwed oherwydd dyled, camfanteisio’n rhywiol, camfanteisio troseddol a chaethwasiaeth domestig. Caiff nifer o ddioddefwyr eu masnachu o dramor ac mae’r troseddwyr yn dechrau camfanteisio arnynt yn ystod y daith. Deir o hyd iddynt yn aml yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, y diwydiant amaeth, y diwydiant rhyw, ac mewn mannau fel siopau ewinedd, lleoliadau golchi ceir a ffermydd canabis.

Child Sexual Abuse (CSA) involves forcing or persuading a child or young person under the age of 18 to take part in sexual activities, whether or not the child is aware of what is happening. Child Sexual Exploitation (CSE) is a form of CSA. It is a term used to describe where an individual or group takes advantage of an imbalance of power to coerce, manipulate or deceive a child under the age of 18 into sexual activity. CSE does not always involve physical contact; it can also occur through the use of technology. Children who are coerced into working for Organised Crime Groups (OCGs) may also be groomed and sexually exploited.

Troseddau Meddiangar Cyfundrefnol
Mae Troseddau Meddiangar Cyfundrefnol yn ymwneud â throseddau lle y mae’r troseddwr neu’r troseddwyr yn elwa mewn modd materol o ganlyniad i’r drosedd. Mae enghreifftiau yn cynnwys dwyn o siopau, bwrgleriaeth a lladrata. Caiff troseddau meddiangar cyfundrefnol yn aml eu cyflawni gan grwpiau Troseddau Cyfundrefnol ar raddfa fawr, wedi’i chynllunio.
