Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Beth yw Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl?

Mae Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn bodoli mewn nifer o ffurfiau ledled y wlad a gallant effeithio ar nifer o bobl wahanol ni waeth beth yw eu cefndir, rhywedd, oed nac ethnigrwydd. Mae’r mathau o gaethwasiaeth yn cynnwys masnachu plant, llafur dan orfod, caethiwed oherwydd dyled, camfanteisio’n rhywiol, camfanteisio troseddol a chaethwasiaeth domestig. Caiff nifer o ddioddefwyr eu masnachu o dramor ac mae’r troseddwyr yn dechrau camfanteisio arnynt yn ystod y daith. Deir o hyd iddynt yn aml yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, y diwydiant amaeth, y diwydiant rhyw, ac mewn mannau fel siopau ewinedd, lleoliadau golchi ceir a ffermydd canabis.

Caethwasiaeth Fodern yn ne Cymru

Mae’r mathau o gaethwasiaeth yn cynnwys:

Caethwasiaeth dyledion

Caiff dioddefwyr eu gorfodi i weithio i dalu eu dyledion na fyddant fyth yn gallu eu talu mewn gwirionedd. Mae cyflogau isel a chynnydd mewn dyledion nid yn unig yn golygu na allant fyth obeithio talu’r benthyciad, ond mae’n bosibl y bydd y ddyled yn cael ei throsglwyddo i’w plant.

Llafur dan orfod

Caiff dioddefwyr eu gorfodi i weithio yn erbyn eu hewyllys, gan weithio oriau hirfaith yn aml am gyflog isel iawn neu ddim cyflog o gwbl mewn amgylchiadau gwarthus gan wynebu bygythiadau geiriol a chorfforol wedi’u hanelu atyn nhw neu eu teuluoedd. Gall ddigwydd mewn nifer o sectorau, gan gynnwys y sector economaidd, o leoliadau golchi ceir i siopau ewinedd, i’r sector tarmacio, lletygarwch a phecynnu bwyd.

Camfanteisio’n Rhywiol

Caiff dioddefwyr eu gorfodi i gyflawni gweithredoedd rhywiol treisgar neu anghydsyniadol yn erbyn eu hewyllys, fel puteindra, gwaith partneru a phornograffi. Er mai menywod a phlant yw’r rhan fwyaf o’r dioddefwyr, gall effeithio ar ddynion hefyd.

Camfanteisio troseddol

Mae dioddefwyr, a gaiff eu rheoli a’u cam-drin yn aml, yn cael eu gorfodi i gyflawni troseddau, fel tyfu canabis neu ddwyn o bocedi yn erbyn eu hewyllys. Mae hefyd yn bosibl y byddai eu manteiswyr yn cymryd rheolaeth o’u buddiannau.

Caethwasiaeth Domestig

Caiff dioddefwyr eu gorfodi i gyflawni gwaith tŷ a dyletswyddau domestig mewn cartrefi preifat am gyflog isel iawn neu ddim cyflog o gwbl, ni allant symud o gwmpas fawr ddim, na chael fawr ddim amser rhydd, os o gwbwl ac ychydig iawn o breifatrwydd gan gysgu yn yr un lle y maent yn gweithio ynddo. Mae’n bosibl y byddant yn cael eu cyflwyno fel aelodau o deulu estynedig eu manteiswyr er mwyn dargyfeirio amheuaeth cymdogion a’r awdurdodau.

Mae arwyddion y gallai fod rhywun wedi cyrraedd y wlad yn erbyn ei ewyllys i gael ei ecsbloetio yn cynnwys:

Edrychiad corfforol

A yw’r person yn arddangos arwyddion o gam-drin corfforol neu seicolegol, yn edrych fel bod angen bwyd arno neu’n flêr, neu’n ymddangos yn dawel ac yn cael ei esgeuluso? A oes ganddo anafiadau nad ydynt wedi cael eu trin?

Ynysu

A yw’r person yn cael ei rwystro i deithio ar ben ei hun yn aml, neu a yw’n ymddangos fel petai yn cael ei reoli neu fod rhywun arall yn dylanwadu arno? A yw’r person yn dawel yn aml neu’n ymddangos fel nad yw’n gyfarwydd â’i gymdogaeth neu ei leoliad gwaith?

Amgylchiadau byw gwael

A yw’n byw mewn llety budr, bach neu brysur, neu’n byw ac yn gweithio yn yr un cyfeiriad?

Cyfyngiad ar ei ryddid i symud o gwmpas

A’i ychydig o eiddo personol sydd gan y person ac a yw bob amser yn gwisgo’r un dillad bob dydd? Mae’n bosibl nad yw’r dillad y mae’n ei wisgo yn addas ar gyfer ei waith. Mae’n bosibl nad yw’n cael llawer o gyfle i symud o gwmpas yn rhydd.

Amseroedd teithio anarferol

A yw’n cael ei gludo neu ei gasglu o’r gwaith yn rheolaidd, naill ai’n gynnar iawn neu’n hwyr y nos?

Yn gyndyn i geisio cymorth

A yw’n osgoi cyswllt llygad, yn ymddangos yn ofnus neu’n gyndyn i siarad â phobl ddiarth? Gall fod nifer o resymau am hyn, fel peidio â gwybod pwy y dylai ymddiried ynddo neu lle i gael cymorth, ofn cael ei allgludo neu ofn y byddai ef neu ei deulu yn dioddef trais

Tarian ROCU Logo