Cam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Beth yw Cam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant?

Mae Cam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn digwydd pan fydd grŵp neu unigolyn yn gorfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol drwy dwyll, pŵer neu ddarbwyllo.

Mae hyn fel arfer yn digwydd yn gyfnewid am rywbeth y mae’r dioddefwr ei eisiau neu ei angen, neu er budd ariannol neu statws uwch i’r troseddwr.

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl ifanc yn cael eu cam-drin yn rhywiol yn y DU. Maent yn aml yn cadw hyn yn gyfrinach. Ni fydd llawer yn deall beth sy’n digwydd.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant?

Cam-drin Plant yn Rhywiol

Cam-drin plant yn rhywiol yw pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei orfodi neu ei dwyllo i gyflawni gweithgarwch rhywiol. Mae’n bosibl na fydd yn deall ei fod yn cael ei gam-drin neu fod yr hyn sy’n digwydd yn anghywir. Ac mae’n bosibl y bydd ganddo ofn dweud wrth rywun. Gall achos o gam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un a gall ddigwydd mewn nifer o wahanol leoliadau, gan gynnwys yn y cartref, yr ysgol neu yn y gwaith

Nid yw cael ei gam-drin yn rhywiol fyth yn fai ar y plentyn. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod plant yn gwybod hyn.

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn fath o gam-drin rhywiol pan fydd oedolyn yn twyllo plentyn i gyflawni gweithredoedd rhywiol drwy gynnig rhywbeth iddynt. Gall hyn gynnwys anrhegion, cyffuriau, arian, statws neu sylw hyd yn oed. Unwaith y bydd yr oedolyn wedi meithrin ymddiriedaeth y person ifanc, gall ei reoli drwy drais neu fygythiadau.

Adnabod yr Arwyddion – Yn y Gymuned

Gall arwyddion bod person ifanc yn cael ei gam-drin yn rhywiol neu fod rhywun yn camfanteisio arno’n rhywiol gynnwys y canlynol:

  • Person ifanc yn dod yn gyfrinachol iawn ac yn peidio â rhyngweithio â’i ffrindiau arferol
  • Cysylltiad newydd â dynion neu fenywod hŷn
  • Mynd ar goll o’r cartref – ac ymateb yn amddiffynnol am eu lleoliad a’r hyn y maen nhw’n ei wneud, gan ddychwelyd adref yn hwyr neu aros allan drwy’r nos yn aml
  • Absennol o’r ysgol
  • Derbyn galwadau a negeseuon rhyfedd ar eu ffonau symudol neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol gan gydnabod anhysbys, a all fod yn llawer iawn hŷn, o’r tu allan i’w rhwydweithiau cymdeithasol arferol
  • Meddu ar eitemau newydd a drud na allant eu fforddio fel arfer, fel ffonau symudol, iPad neu emwaith
  • Newidiadau sydyn i batrymau gwisgo neu chwaeth gerddorol
  • Ymddangos wedi blino a / neu’n sâl, a chysgu yn ystod oriau anarferol
  • Marciau neu greithiau ar eu cyrff y maent yn ceisio eu cuddio
  • Defnyddio ‘iaith stryd’ newydd neu ymateb i enw ‘stryd’ newydd
Tarian ROCU Logo