
Masnachu mewn Cyffuriau
Beth mae Masnachu mewn Cyffuriau yn ei olygu?
Ceir tri dosbarth o gyffuriau a reolir yn y DU: Dosbarth A, Dosbarth B a Dosbarth C. Mae masnachu mewn cyffuriau yn ffynhonnell gyllid fawr i Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol. Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn symud cyffuriau anghyfreithlon o un ardal i’r llall, fel arfer gan ddefnyddio plant neu bobl agored i niwed, drwy broses a elwir yn Llinellau Cyffuriau. Mae pedair prif drosedd sy’n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon: meddu ar gyffuriau, eu cyflenwi, eu cynhyrchu a’u mewnforio. Mae masnachu mewn cyffuriau bron bob amser yn sail i weithgareddau eraill grwpiau troseddau cyfundrefnol.

Beth mae Llinellau Cyffuriau yn ei olygu?
Llinellau Cyffuriau yw pan fydd delwyr cyffuriau trefol, yn aml o ddinasoedd mawr fel Llundain, yn symud i ardaloedd maestrefol, trefi marchnad a threfi arfordirol, ac yn dechrau gwerthu eu cynnyrch yno. Defnyddir rhif ffôn symudol neu linell cyffuriau dynodedig i gysylltu’r ymgyrch droseddol â’r cwsmeriaid.
Adnabod yr Arwyddion – Yn y Gymuned
Arwyddion bod Llinellau Cyffuriau yn delio cyffuriau yn eich ardal:
- Cynnydd yn y nifer o geir ac ymwelwyr â thŷ neu fflat
- Wynebau newydd yn ymddangos yn rheolaidd mewn tŷ neu fflat
- Preswylwyr newydd a rhai sy’n newid yn aml (h.y. acenion gwahanol o gymharu â’r acen leol)
- Newid yn hwyliau a / neu ymddygiad y preswylydd (h.y. cyfrinachol, tawel, bygythiol, emosiynol)
- Camddefnyddio sylweddau a / neu gyfarpar cyffuriau
- Cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol
Arwyddion y gall fod person ifanc rydych yn ei adnabod yn ymwneud â delio cyffuriau fel rhan o Linellau Cyffuriau:
- Ei fod wedi cael gafael ar bethau newydd, sydd weithiau yn anfforddiadwy, heb esboniad (h.y. dillad, gemwaith, ceir ac ati)
- Ei fod yn mynd ar goll yn aml, weithiau am gyfnodau hir o amser
- Ei fod wedi cael ei weld mewn ceir / tacsis gwahanol a gaiff eu gyrru gan oedolion anadnabyddus
- Triwantiaeth, cael ei wahardd o’r ysgol, ymddieithrio o’r ysgol
- Anafiadau anesboniadwy
Arwyddion y gall fod Llinellau Cyffuriau wedi effeithio ar gymydog agored i niwed:
- Ymwelwyr rheolaidd â’i gartref yn ystod oriau anghymdeithasol
- Newidiadau yn ei arferion dyddiol
- Arogleuon anarferol yn dod o’i eiddo
- Cerbydau amheus neu anghyfarwydd wedi’u parcio y tu allan i’w gyfeiriad

Ydych chi wedi gweld arwyddion o Linellau Cyffuriau?
Gallwch roi gwybod amdanynt yn ddienw i Crimestoppers ar-lein. Elusen annibynnol yw Crimestoppers sy’n gweithio i helpu cymunedau. Caiff eich adroddiad dienw ei anfon at yr awdurdod perthnasol â chyfrifoldeb cyfreithiol i ymchwilio i’r drosedd rydych wedi rhoi gwybod amdani. Gallai hyn gynnwys eich heddlu lleol, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) neu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Dylech ffonio 999 bob amser mewn argyfwng lle rydych yn credu bod bygythiad i fywyd.


