Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu

Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu yw’r math mwyaf cyffredin o drosedd yn y DU ac mae 40% o’r holl droseddau bellach yn rhan o’r math hwn.

Mae Troseddau Economaidd yn cyfeirio at gategori eang o weithgarwch yn ymwneud ag arian, cyllid neu asedau. Ei bwrpas yw sicrhau bod y troseddwr yn gwneud elw neu’n elwa’n anghyfreithlon o’r gweithgarwch, neu achosi i eraill golli arian. Gweithgarwch troseddol yw Seiberdroseddu sydd naill ai’n targedu neu’n defnyddio cyfrifiadur, rhwydwaith cyfrifiadurol, neu ddyfais rwydweithiol.