
Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol
Beth yw Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol?
Mae Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol yn ymwneud â symud unigolyn o un wlad i’r llall heb ganiatâd cyfreithiol neu ddogfennaeth gyda chymorth Grŵp Troseddau Cyfundrefnol. Mae Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol sy’n ymwneud â throseddau mewnfudo yn camfanteisio’n fawr ar oedolion a phlant agored i niwed ac yn gofyn am symiau mawr o arian am eu gwasanaethau anghyfreithlon. Gall y rhai hynny na allant dalu gael eu gorfodi i ymgymryd â chaethwasiaeth fodern a gweithio i dalu eu ‘dyledion’.

Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol yn ne Cymru
Y ffyrdd mwyaf cyffredin a chudd i fudwyr gyrraedd y DU yw mewn lorïau neu gerbydau masnachol eraill a gaiff eu cludo ar drenau neu fferi, mewn cynwysyddion morgludo masnachol, neu mewn cychod bach.
Yn ne Cymru, rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o achosion lle y caiff mudwyr eu gorfodi i adael y cerbyd, sef cerbyd nwyddau trwm fel arfer, mewn man gollwng. Mae’r mannau gollwng fel arfer wedi’u lleoli ar hyd rhwydwaith y draffordd, ac yn agos at orsaf betrol weithiau.
Adnabod yr Arwyddion – Fel Cludwr
Mae smyglwyr pobl yn aml yn targedu cludwyr. Mae smyglo pobl yn drosedd ddifrifol. Yn 2019, bu farw 39 o bobl wrth guddio mewn lori oedd yn cario oergell a chafodd y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r achos eu dedfrydu i gyfanswm o 92 o flynyddoedd a 10 mis yn y carchar. Helpwch ni i gadw pobl yn ddiogel.
Ydych chi yn amau neu wedi gweld y canlynol?
- Unigolion yn mynd at yrwyr eraill er mwyn cludo eitemau am arian
- Dulliau anarferol o dalu neu drafodion rhwng gyrwyr a’u cwsmeriaid
- Toriadau rheolaidd o ddiogelwch yng nghaban y porthladdoedd rydych yn ymweld â nhw
- Pobl neu gerbydau yn ymgymryd â gweithgarwch amheus neu anarferol o amgylch wagenni neu drelar
- Wagenni yn cael eu defnyddio at ddibenion anghywir neu anarferol
- Trelar rydych yn ei weld yn rheolaidd sydd wedi cael ei addasu mewn ffordd anarferol
- Dargyfeiriadau munud olaf neu annisgwyl rheolaidd gan yrrwr neu gwmni.
- Gwasanaethau anarferol o rad
- Grwpiau cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar lwythi
- Newid rhif cerbyd a cherbydau danfon posibl

Ydych chi wedi gweld arwyddion o Droseddau Mewnfudo?
Gallwch roi gwybod amdanynt yn ddienw i Crimestoppers ar-lein. Elusen annibynnol yw Crimestoppers sy’n gweithio i helpu cymunedau. Caiff eich adroddiad dienw ei anfon at yr awdurdod perthnasol â chyfrifoldeb cyfreithiol i ymchwilio i’r drosedd rydych wedi rhoi gwybod amdani. Gallai hyn gynnwys eich heddlu lleol, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) neu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Dylech ffonio 999 bob amser mewn argyfwng lle rydych yn credu bod bygythiad i fywyd.


