
Darllenwch fwy am y rolau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, neu’n wynebu risg o niwed, dylech ffonio 999 nawr.
Swyddogion yr Heddlu
Gall swyddogion yr heddlu sy’n gwasanaethu yn un o’n heddluoedd lleol (Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent neu Heddlu Dyfed-Powys) wneud cais am ein swyddi gwag ar gyfer swyddogion. Bydd angen i swyddogion yr heddlu fod mewn swydd barhaol (wedi gwasanaethu am o leiaf ddwy flynedd yn eu heddlu), cael cefnogaeth eu heddlu, a gwneud cais am rôl sy’n berthnasol i’w rheng.
Gellir dod o hyd i swyddi gwag ar gyfer swyddogion ar dudalen ‘Swyddi Gwag Mewnol’ ar fewnrwyd yr heddlu.


Staff yr Heddlu
Caiff pob aelod o staff yr heddlu sy’n gweithio i Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian ei gyflogi gan Heddlu De Cymru, ein prif heddlu. Gallwch wneud cais am swydd wag os ydych yn un o gyflogeion presennol yr heddlu, neu’n ymgeisydd allanol newydd.
Caiff pob swydd wag ar gyfer staff Tarian eu hysbysebu ar Swyddi Gwag yr Heddlu. Bydd y geiriau ‘Tarian’, ‘Rhanbarthol’ neu ‘ROCU’ yn ymddangos yn nheitl y rôl ar gyfer Tarian fel arfer.
Caiff detholiad o swyddi gwag ar gyfer staff yr heddlu eu hysbysebu ar ein tudalen LinkedIn hefyd.
Gwirfoddolwyr yr Heddlu
Mae rhai galluoedd o fewn yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol yn recriwtio gwirfoddolwyr yr heddlu er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd, ymgymryd â phrosiectau penodol a mwy. Caiff cyfleoedd i wirfoddolwyr yr heddlu eu hysbysebu ar ein tudalen LinkedIn.

Diwrnod ym Mywyd …
Cwestiynau Cyffredin
A allaf wneud cais os nad wyf yn swyddog heddlu ar hyn o bryd?
Gallwch wneud cais ar gyfer ein swyddi gwag i staff yr heddlu. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn swyddog yr heddlu, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol gyda’r heddlu.
A allaf weithio’n rhan amser?
Bydd hyn yn dibynnu ar y rôl rydych yn ymgeisio amdani. Mae’n bosibl gweithio’n llawn amser a rhannu swydd ar gyfer y rhan fwyaf o rolau. Gellir gweithio’n rhan amser mewn rhai swyddi hefyd. Bydd angen ymgymryd â rota ar alwad a / neu fod yn hyblyg o ran eich oriau gwaith ar gyfer rhai rolau gweithredol. Cyfeiriwch at hysbysiad y rôl os oes gennych ddiddordeb.
Ble y bydd y rôl wedi’i lleoli?
Caiff lleoliadau eu rhestru ar yr hysbyseb ar gyfer pob rôl.
Ydych chi’n cynnig yr opsiwn o weithio’n hybrid?
Bydd hyn yn dibynnu ar y rôl rydych yn ymgeisio amdani, ond gallwn gynnig yr opsiwn o weithio’n hybrid mewn sawl achos.
Oes angen i mi gwblhau cliriad diogelwch er mwyn gweithio i’r Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol?
Oes. Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ein gwiriadau cyn cyflogaeth manylach er mwyn pennu eich addasrwydd i weithio mewn sefydliad sy’n mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Rhaid i holl swyddogion a staff Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian feddu ar gliriad SC o leiaf cyn dechrau’r swydd. Caiff prosesau fetio eu cynnal cyn i chi dderbyn swydd yn yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol.






